Norofirws yn effeithio ar ddau ysbyty yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae 'na gyfyngiadau ar dair ward yn Ysbyty Glan Clwyd
Mae'r salwch stumog norofeirws wedi ei ddarganfod mewn dau o ysbytai gogledd Cymru.
Yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae dwy ward ar gau i gleifion newydd, gyda thair ward arall ar gau yn rhannol.
Yn Ysbyty Glan Clwyd mae 'na gyfyngiadau ar dair ward.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofyn i ymwelwyr i gadw draw o'r ysbytai os ydyn nhw wedi bod gyda symptomau dros y deuddydd diwethaf.
Straeon perthnasol
- 29 Hydref 2012
- 24 Hydref 2012
- 23 Hydref 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol