Cyfrifiad 2011: Mwy yn gofalu

  • Cyhoeddwyd
Gofalu am yr henoed

Mae canran uwch o bobl Cymru yn ofalwyr digyflog - 12% (370,000) - nag mewn unrhyw ran o Loegr.

Daeth y ffigyrau i'r amlwg wrth i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi mwy o wybodaeth am Gyfrifiad 2011.

Roedd gan Gymru hefyd y canran uchaf o bobl yn rhoi 20-49 awr a 50+ o oriau o ofal bob wythnos.

Yn 2001, roedd 90,000 o bobl Cymru yn gwneud mwy na 50 awr o ofalu digyflog bob wythnos. Erbyn 2011 mae'r ffigwr wedi cynyddu i 104,000.

Yn 2001, roedd 43,000 yn gwneud rhwng 20-49 awr bob wythnos o ofalu heb dâl - mae hynny hefyd wedi cynyddu i 54,000 yn 2011.

Mae'r cyfrifiad diweddaraf hefyd yn dangos bod 23% o boblogaeth Cymru yn dweud bod eu gweithgaredd wedi'i gyfyngu oherwydd afiechyd tymor hir neu anabledd.

Gall fod y cynnydd yn oedran y boblogaeth yn rhannol gyfrifol am hynny.

Canolrif oedran poblogaeth Cymru yw 41 - ddwy flynedd yn hyn na'r canolrif o 39 ar draws Cymru a Lloegr yn 2011.

Mae canran y boblogaeth yng Nghymru sy'n 65 oed neu'n hyn yr uchaf i gael ei gofnodi erioed mewn unrhyw gyfrifiad - dros 18% neu 563,000. Mae hynny'n gynnydd o 57,000 yn y categori oedran yna ers Cyfrifiad 2001.