Casnewydd 5-2 Luton
- Cyhoeddwyd

Mae Casnewydd yn ôl ar frig Uwchgynghrair Blue Square Bet yn dilyn buddugoliaeth gampus yn erbyn Luton ar Rodney Parade.
Mewn hanner cyntaf llawn digwyddiad, y tîm cartref aeth ar y blaen wedi 12 munud diolch i beniad Aaron O'Connor o'r tu mewn i'r cwrt chwech.
Ond pedwar munud yn ddiweddarach roedd hi'n gyfartal. Andre Gray gafodd y bêl o fewn y cwrt chwech a rhwydo i unioni'r sgôr.
Tîm Justin Edinburgh oedd yn rheoli'r chwarae, ac fe gawson nhw'u haeddiant wrth fynd yn ôl ar y blaen wedi 23 munud. Christian Jolley yn derbyn pas Michael Smith ac yn sgorio.
Wedi 38 munud, fe darodd Jolley ergyd o 20 llath a wyrodd i gornel isa'r rhwyd oddi ar amddiffynwyr Luton, Ronnie Henry, i roi mantais o 3-1 i Gasnewydd ar yr egwyl.
Roedd Luton yn llawer mwy ymosodol yn yr ail hanner, ac fe ddaeth eu gwobr wedi awr o chwarae.
Jon Shaw dderbyniodd y bêl gan Ronnie Henry cyn tanio ergyd i gornel y rhwyd - 3-2.
Ond fe darodd Andy Sandell yn ôl yn syth bron, ac unwaith eto daeth y gwaith creu gan Smith - 63 o funud ar y cloc, ac roedd hi'n 4-2 i'r tîm cartref.
Roedd y goliau'n llifo erbyn hyn, ac yn fuan iawn roedd hi'n bump i Gasnewydd. Christian Jolley gyda'i ail yn y gêm wedi 67 munud.
Doedd dim atgyfodiad i Luton y tro hwn, ac fe ddaliodd Casnewydd eu gafael ar y triphwytn sy'n eu codi i frig y tabl.
Straeon perthnasol
- 27 Hydref 2012
- 13 Hydref 2012
- 9 Hydref 2012