Bws ysgol: Rhieni'n ymgyrchu ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae rhieni'n ceisio gwrthdroi penderfyniad wedi i gyngor ddweud bod gwasanaeth bysus yn rhad ac am ddim ar gyfer disgyblion yn dod i ben.
Efallai y bydd rhaid i fwy nag 20 o ddisgyblion ysgol uwchradd gerdded bron tair milltir i'r ysgol yn y flwyddyn newydd.
Oherwydd cytundeb bws newydd ni fydd y plant o Dalgarth sy'n mynd i Ysgol Uwchradd Gwernyfed, ger y Gelli Gandryll, yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth.
Mae rhieni wedi bod yn talu £95 y tymor am y gwasanaeth ond dywedodd Cyngor Powys fod rhieni wedi cael rhybudd na fyddai'r gwasanaeth yn barhaol.
Os yw cartref y plant fwy na thair milltir o'r ysgol maen nhw'n gymwys ar gyfer y gwasanaeth bws yn rhad ac am ddim.
Os yw'r cartref lai na thair milltir i ffwrdd, rhaid talu £95.
Grŵp gweithredu
Cafodd rhieni eu hysbysu ynghylch y penderfyniad i ddileu'r gwasanaeth bysus ym mis Tachwedd a dywedodd y llythyr y gallai plant ddefnyddio llwybr i gerdded i'r ysgol.
Cafodd y llwybr sy'n cysylltu Talgarth a Gwernyfed ei adeiladu yn 2005 ar gost o £250,000 fel rhan o gynllun Llwybrau Diogel i'r Ysgol.
Mae rhieni wedi ffurfio grŵp gweithredu mewn ymgais i wrthdroi'r penderfyniad.
Dywedodd un ohonyn nhw, Elaine Bowen: "Dywed y cyngor fod ein plant yn gallu defnyddio llwybr seiclo i gerdded y tair milltir i'r ysgol ond nid yw fy mhlentyn 13 oed yn mynd i wneud hynny.
"Mae llifogydd yn effeithio ar y llwybr yn aml a does dim goleuadau yno.
"Mae hon yn broblem iechyd a diogelwch ac rydym am i'r cyngor newid eu meddwl."
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod rhieni wedi cael rhybudd y gallai'r gwasanaeth ddod i ben os nad oedd seddau rhydd ar gael.
Ychwanegodd fod yr awdurdod lleol wedi cynghori rhieni ynghylch gwasanaethau bysiau cyhoeddus yr ardal.
Straeon perthnasol
- 14 Mawrth 2012
- 17 Mehefin 2004