James Harris i ymuno â charfan T20 Lloegr
- Cyhoeddwyd

Mae anaf i gapten tîm 20 pelawd Lloegr Stuart Broad wedi rhoi cyfle i James Harris i ddechrau ei yrfa ryngwladol.
Bydd Harris, 22 oed, gafodd ei eni yn Nhreforys yn cymryd lle Broad yng ngharfan Lloegr fydd yn herio India mewn dwy gêm T20 yr wythnos nesaf.
Mae Harris yn rhan o garfan Rhaglen Berfformio Lloegr sydd wedi bod ar daith yn India ers mis Tachwedd.
Ym mis Medi eleni penderfynodd Harris ymuno â Chlwb Criced Middlesex wedi iddo wrthod "cytundeb sylweddol" i aros gyda Morgannwg.
Roedd gan y bowliwr cyflym gymal yn ei gytundeb â Morgannwg oedd yn ei alluogi i adael y sir pe na fyddai'r clwb yn chwarae yn yr Adran Gyntaf ym Mhencampwriaeth y Siroedd.
Ar y pryd dywedodd Harris fod yn rhaid iddo adael Morgannwg i hybu ei obeithion o gael ei ddewis i chwarae i Loegr.
Chwaraeodd i Forgannwg am y tro cyntaf yn 2007 pan oedd yn 16 oed, ac ef yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i gipio 200 o wicedi i'r sir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2012
- Cyhoeddwyd31 Awst 2012
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2011