Blwyddyn amrywiol o'r lleddf i'r llon
Alun Thomas
BBC Cymru
- Published
Blwyddyn amrywiol, blwyddyn yn cynnwys y llon a'r lleddf.
Dyna natur gwaith gohebydd wrth gwrs, ac roedd hynny'n arbennig o amlwg yn ystod 2012.
Roedd y llon yn cynnwys y dathliadau ledled Cymru pan ddaeth y Fflam Olympaidd heibio ddiwedd Mai.
Doedd yr holl sbloets ddim wrth ddant pawb yn naturiol, ond doedd dim amheuaeth bod 'na filoedd o bobl wedi dewis dod mas i'r heulwen i weld y rhedwyr.
Dwi'n cofio plant Ysgol Gymraeg Y Fenni wrth eu bodd â'r achlysur; Sean Lewis oedd yn cario'r fflam yn y dref honno.
Roedd o wedi codi'n gynnar i sefyll arholiad yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni cyn mynd i redeg.
Dwi'n cofio hefyd y croeso roddodd Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl i bobl oedd wedi dod i wylio'r cyfan.
Y pethau eraill sy'n dod i gof yw Strydoedd Merthyr a Nant-y-Moel dan eu sang, a'r dathlu ar gaeau Cooper yng Nghaerdydd a Pharc Singleton yn Abertawe
Llwyddiant Isaías
Y llon hefyd yn Llandŵ ddechrau Awst.
Roedd trigolion Bro Morgannwg yn ymfalchio yn llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn eu hardal.
Roedd yn braf cwrdd â'r pedwar oedd yn cystadlu i fod yn ddysgwr y flwyddyn - a llongyfarchiadau eto i Isaías Grandis ar gyrraedd y brig.
Cofio hefyd cwrdd â'r criw o Glwb Rhwyfo Madog ym Mhorthmadog oedd wrth eu bodd o fod yn rhan o'r pasiant ar Afon Tafwys i ddathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines - a hynny er gwaetha'r glaw mawr.
Ond roedd y lleddf yn amlwg iawn trwy gydol y flwyddyn hefyd.
Cofio'r anghrediniaeth a dycnwch cymuned Machynlleth ddechrau hydref ar ôl i April Jones fynd ar goll.
Ac yng Nghaerdydd, y dicter a'r galar ar ôl i Karina Menzies oedd yn fam i dri gael eu lladd ar ôl cael ei tharo gan fan ar strydoedd gorllewin y ddinas.
Cafodd 13 o bobl eraill yn cael eu hanafu.
Mae Matthew Tvrdon wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth Ms Menzies, ac o geisio llofruddio 13 o bobl eraill.
Blwyddyn amrywiol oedd 2012.
Ac mae'n siwr y bydd 2013 yr un fath.