Llys yn ystyried achos pensiynau

  • Cyhoeddwyd
VisteonFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Aeth Visteon i ddwylo'r gweinyddwyr yn 2009

Bydd yr Uchel Lys yn clywed achos cyn weithwyr ffatri cydrannau ceir yn Abertawe sy'n honni bod arian pensiwn yn ddyledus iddyn nhw.

Er i gwmni Visteon fynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn 2009, mae'r staff wedi bod yn galw am well taliadau.

Fe wnaeth cwmni Visteon brynu'r safle oddi wrth Ford yn 2000.

Dywed cwmni Ford, wnaeth drosglwyddo cronfeydd ymddeol i Visteon, nad ydyn nhw'n gyfrifol am y taliadau pensiwn.

Mae'r gweithwyr yn honni iddyn nhw golli rhan sylweddol o'u cynilion pan aeth Visteon i ddwylo'r gweinyddwyr.

Dywed y gweithwyr y dylai Ford fod wedi sicrhau bod eu pensiynau yn fwy diogel.

Mae rhai gweithwyr yn honni fod gwerth eu pensiynau wedi gostwng bron i 40%.

Fe wnaeth undeb Unite fynd â Ford i'r Uchel Lys ym mis Ionawr 2011.

Dywed Ford nad oes sail i'r honiad.

Maen nhw'n dadlau fod Visteon yn gwmni annibynnol yn 2000, ac mai Visteon oedd yn gyfrifol am ei benderfyniadau busnes.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol