Rob Howley i mewn, Shaun Edwards allan o garfan hyfforddi'r Llewod
- Cyhoeddwyd

Mae Warren Gatland wedi cadarnhau ei dîm hyfforddi ar gyfer taith y Llewod i Awstralia yn 2013.
Mae Rob Howley, Andy Farrell a Graham Rowntree wedi cael eu henwi, gan olygu nad oes lle i hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards, yn y tîm.
Roedd Howley (olwyr) a Rowntree (blaenwyr) yn rhan o'r tîm hyfforddi ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica yn 2009.
Ond roedd Edwards wedi dweud yn gyhoeddus y byddai'n dymuno bod yn rhan o'r tîm y tro hwn.
Fe fydd Gatland yn canolbwyntio ar ei waith gyda'r Llewod, ond fe fydd tîm Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad dan ofal Howley cyn iddo yntau droi ei sylw at Awstralia.
Mae Howley, oedd yng ngharfan y Llewod fel chwaraewr yn nheithiau 1997 a 2001, wedi colli pump o'i chwe gêm yn brif hyfforddwr Cymru.
'Unigryw'
Wrth fynegi ei fod yn hapus gyda'r cyhoeddiad, dywedodd Warren Gatland: "Mae teithiau'r Llewod yn unigryw gan fod rhaid moldio chwaraewyr o bedair gwlad gyda'i gilydd mewn cyfnod byr iawn.
"Rydym yn sylweddol maint y dasg, ond rydym wedi siarad am y sialensau ac yn credu y gallwn fel tîm hyfforddi ddarparu'r gefnogaeth a'r amgylchedd sydd angen ar y chwaraewyr i ennill yn Awstralia.
"Byddwn hefyd yn trafod dros yr wythnosau nesaf yr angen am fwy o gymorth technegol."
Bydd y daith yn dechrau gyda gêm yn erbyn y Barbariaid yn Hong Kong ar Fehefin 1, 2013, gyda'r prawf cyntaf yn erbyn Awstralia ar Fehefin 22 yn Brisbane.
Nid yw'r Llewod wedi ennill cyfres brawf ers iddyn nhw deithio i Dde Affrica yn 1997.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd10 Medi 2012
- Cyhoeddwyd4 Medi 2012
- Cyhoeddwyd23 Awst 2012