Oriel Y Tate i hybu celf yng ngogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Mostyn NinjasFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Mae’r oriel eisoes yn rhedeg y Mostyn Ninjas ar gyfer plant ifanc

Mae oriel y Tate yn Llundain wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ariannu prosiectau ieuenctid yng ngogledd Cymru.

Oriel Mostyn, Llandudno, yw'r unig leoliad yng Nghymru i dderbyn rhan o'r grant gwerth £5 miliwn i redeg rhaglen 'Circuit' ar gyfer pobl ifanc o dan 25 oed.

Nod y rhaglen, sy'n rhan o ymgyrch 'Plus Tate' a ariannwyd gan Sefydliad Paul Hamlyn, yw rhoi cyfle i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig neu lai breintiedig, i gynllunio, datblygu a gweithredu prosiectau celfyddydol.

Yn ôl Oriel Mostyn, y gobaith yw annog mwynhad o gelf, gwella hyder a magu rhagoriaeth ymhlith pobl ifanc dros y pedair blynedd nesaf.

Cyffroi

Dywedodd Alfredo Cramerotti, cyfarwyddwr yr oriel: "Dwi wedi cyffroi gyda'r syniad o ddod â phobl ifanc yn agosach at y posibiliadau o gelf gyfoes.

"Ein nod ni yw cychwyn sawl trafodaeth am fywyd heddiw, ac mae celf yn ffordd wych o wneud hynny, yn enwedig gyda'r genhedlaeth ifanc.

"Lle celf gyfoes yw helpu i wneud synnwyr o fywyd pob dydd, felly marciau llawn i Sefydliad Paul Hamlyn a'r Tate am gynnig y cyfleoedd yma."

Ychwanegodd Nia Roberts, rheolwr Rhaglen Gelf Weledol Oriel Mostyn, eu bod am gyd-weithio gydag orielau ar draws gogledd Cymru yn ogystal â gwasanaethau ieuenctid i ddod o hyd i grwpiau o bobl ifanc sydd heb gael eu cyflwyno i'r byd celf.

"Mae cael y swm yma o arian am wneud gwahaniaeth, yn enwedig pan mae arian mor brin," meddai.

'Ysbrydoli'

"Mae cael arian i wneud rhywbeth tu hwnt i'r oriel a chysylltu efo mwy o bobl, yn wych i ni.

"Rydym eisoes yn gweithio gyda ffermwyr ifanc Llansannan, sy'n cofnodi eu bywydau pob dydd ar ffilm.

"Rydym am iddyn nhw ddeall pwysigrwydd diwylliannol yr hyn maen nhw'n ei wneud yng nghefn gwlad a pheidio â meddwl am ddiwylliant fel rhywbeth allan o'u cyrraedd.

"Rydym yn gobeithio ysbrydoli'r bobl ifanc - trwy gelf rydych yn gallu sbarduno diddordebau mewn meysydd eraill."

Caiff prosiect Mostyn Ninjas y galeri, sy'n dod â phlant rhwng 11-13 mlwydd oed at ei gilydd i drefnu digwyddiadau i gyd-fynd a'r arddangosfeydd diweddaraf ei ehangu hefyd.

Bydd y grant yn helpu ariannu gŵyl gelfyddydau i bobl ifanc yn y gogledd hefyd a phrosiectau digidol ac ar-lein hirdymor gyda sefydliadau ieuenctid lleol.

Caiff y £5 miliwn ei rannu dros y pedair blynedd nesaf gyda phum prosiect arall ym Mhrydain.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol