Diffyg unigolion o leiafrifoedd ethnig mewn swyddi uchel
- Cyhoeddwyd

Mae aelodau o leiafrifoedd ethnig yn cael eu tan gynrychioli o fewn swyddi uchaf y sector gyhoeddus yng Nghymru.
Yn ôl gwaith ymchwil gan BBC Cymru, dim ond dau reolwr yng nghynghorau Cymru sy'n disgrifio eu hunain o dras ethnig.
Mae comisiynydd cydraddoldeb Cymru yn dweud fod hyn yn achos pryder.
Edrychodd BBC Cymru ar bobl sydd yn ennill cyflog o £58,200 neu fwy, y raddfa ar gyfer swyddi uwch yn y gwasanaeth sifil.
Mae cyfanswm o tua 930 o weithwyr yn ennill mwy na hynny yn y gwasanaeth sifil, rheolwyr byrddau iechyd a chynghorau ac o fewn BBC Cymru.
Dim ond dau allan o 360 o reolwr o fewn cynghorau Cymru sy'n dod o leiafrifoedd ethnig.
Gweithlu'n adlewyrchu'r gymuned
Mae un yn gweithio i Gyngor Caerdydd, ond, yn ôl y cyfrifiad diweddaraf, mae'r Cyngor yn gwasanaethu ardal sydd â 19.7% o'i phoblogaeth yn dod o leiafrifoedd ethnig.
Yn ôl llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r cyngor yn cydnabod ein bod ni yn gweithio mewn cymuned sydd â chroestoriad o bobol yn byw ynddi.
"Rydym yn sylweddoli'r pwysigrwydd o gael gweithlu sydd yn adlewyrchu hynny."
Ond mae llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gydraddoldeb yn dweud bod angen i gynghorau Cymru wneud mwy.
"Yn amlwg mae 'na le i wella," meddai Ellen ap Gwynn.
"Dwi'n ymwybodol bod pob cyngor yn gorfod cael polisi cydraddoldeb.
"Wrth gynnig penodiadau i bobl ac wrth wahodd ceisiadau am benodiadau mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol eu bod nhw ar agor i bawb."
Gyda chyn lleied o dras ethnig yn cael eu cyflogi yn y swyddi uchaf oes 'na hiliaeth o fewn y sector gyhoeddus?
Yn ôl comisiynydd cydraddoldeb a hawliau dynol Cymru, Ann Beynon, mae angen addysgu rhai pobol.
"Rydan ni'n llawer mwy goddefgar, yn llawer mwy deallus ynglŷn â'r gwahaniaethau sydd yn ychwanegu cyfoeth i'n cymunedau ni," meddai.
"Mae 'na unigolion, lleiafrifoedd, grwpiau bach yn y gymdeithas sydd ddim wedi dysgu gwersi ond drwyddi draw mae'r sector gyhoeddus yng Nghymru llawer gell nag oedd hi 10 mlynedd yn ôl."
Er waethaf cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth chafwyd dim manylion llawn gan rai o'r byrddau iechyd.
Doedd rhai o'r gweithwyr ddim yn datgan eu hil, a doedd gan rai byrddau iechyd ddim cofnod cyfredol dibynadwy.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012