Carreg filltir i bentref £6.3m
- Cyhoeddwyd

Mae seremoni yn cael ei chynnal ddydd Iau i nodi carreg filltir yng ngwaith adeiladu'r rhan gyntaf o bentref 'ymchwil a datblygu' gwerth £6.3 miliwn yn ardal Glannau'r Harbwr, Port Talbot.
Mae'r gofod 42,000 troedfedd sgwâr a fwriedir ar gyfer swyddfeydd a labordai, yn rhan allweddol o ddatblygiad Parc yr Harbwr a disgwylir y bydd yn creu 170 o swyddi technoleg uchel yn y dref dros y flwyddyn nesaf.
Bydd Alun Davies AC, Y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, yn arwain seremoni gosod y garreg gopa gyda'r partneriaid prosiect cyhoeddus a phreifat.
'Cystadleuol a chynaliadwy'
Dywedodd Alun Davies: "Mae adeiladu'r isadeiledd cywir, fel bod cwmnïau'n gallu ffynnu, yn hanfodol i greu economi sy'n fodern, cystadleuol a chynaliadwy.
"Rydw i'n hynod o falch ein bod wedi gallu defnyddio arian Ewropeaidd i ddatblygu amgylchedd mentrus fydd yn helpu i greu mwy o gyfleoedd swyddi a ffyniant er budd pobl yr ardal.
"Mae'r prosiect hwn hefyd yn dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddarparu'r buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen ar ein heconomi i ffynnu."
Rhoddwyd £2.95 miliwn i'r datblygwr Deryn Properties o Gronfa Datblygu Eiddo De Orllewin Cymru ym Mis Ionawr eleni.
Mae'r tri adeilad dau lawr, a gynlluniwyd gan gwmni Rio Architects o Gaerdydd, wedi eu cynllunio'n bennaf i roi lle i gwmnïau sy'n gweithio oddi fewn i'r sectorau cynhyrchu, peirianneg a defnyddiau.
Mae'r gwaith adeiladu'n cael ei wneud gan y contractwr, Syr Robert McAlpine a bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau ym Mis Mehefin 2013.
Mae dau fusnes cynhyrchu, Tata Steel UK Ltd a TWI Ltd, eisoes wedi cadarnhau eu bod am rentu dau o'r tri adeilad, fydd yn cynnwys labordai ymchwil, ystafelloedd cyfarfod a chynadledda yn ogystal â mannau diwydiannol pwrpasol ar gyfer cynnal profion ymchwil.
'Ansawdd uchel'
Dywedodd y Cynghorydd Ali Thomas, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Bydd y datblygiad hwn yn darparu lle o ansawdd uchel i fusnesau er mwyn creu cyfleoedd swyddi o ansawdd i Bort Talbot a denu mewnfuddsoddiad newydd".
Dywedodd David Stacey, Rheolwr Partnerol y cwmni datblygu o Gaerdydd, Deryn Properties: "Bydd y campws ymchwil a datblygu hwn yn sicrhau gwaith o ansawdd uchel ar gyfer Castell-nedd Port Talbot a bydd yn denu buddsoddiad pellach oddi wrth gwmnïau eraill sydd â'r un math o feddylfryd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2012