O Landudno i Lundain: Defnyddio Skype i ddangos panto
- Cyhoeddwyd

Cafodd pantomeim ei ddarlledu'n fyw o theatr yng Nghonwy i Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain trwy ddefnyddio Skype.
Dywedir mai dyma'r tro cyntaf yn y byd i'r fath beth gael ei wneud.
Cafodd plant sâl yn Llundain yn gwylio'r cynhyrchiad o Peter Pan o Venue Cymru, Llandudno, ar sgrîn fawr.
Dywedodd llefarydd o Venue Cymru bod y theatr "wrth eu bodd" o gymryd rhan.
Dywedodd llefarydd o gwmni Skype y byddai'n "brofiad gwych" i'r plant tra bod Ysbyty Great Ormond Street wedi dweud y byddai'n brofiad arbennig i'w cleifion.
Syniad Skype a Qdos Entertainment, cynhyrchydd pantomeim sy'n llwyfannu cynyrchiadau dros Brydain, oedd y darllediad.
Hawliau Peter Pan
Roedd Skype wedi gofyn i'r cwmni ddewis pantomeim i'w ddangos i'r plant yn yr ysbyty.
Dywedodd Lesley Downie, o Qdos, mai sioe Llandudno oedd "y dewis amlwg" oherwydd cysylltiad Peter Pan â Great Ormond Street.
Yn 1929 rhoddodd JM Barrie, awdur y stori, yr holl hawliau i Peter Pan i'r ysbyty, sy'n derbyn breindaliadau bob tro mae'r ddrama'n cael ei llwyfannu.
Dywedodd Matt Jordan o gwmni Skype: "Rydym yn mynd i lefel newydd a chyffrous gyda'r perfformiad byw cyntaf yn y byd o bantomeim ar Skype."
Cyfaddefodd Mr Jordan, sydd fel arfer wedi ei leoli yn yr Unol Daleithiau, bod byd y pantomeim yn "hollol newydd" iddo ond dywedodd ei fod wedi bod yn gweithio ar y prosiect am chwe mis.
"Ein nod yw i'r plant deimlo fel pe baen nhw'n eistedd yn yr awditoriwm ei hun."
Un o sêr y pantomeim yw Barney Harwood sydd yn cyflwyno'r rhaglen plant Blue Peter.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2007