Achos arall o haint ynn

  • Cyhoeddwyd
Coeden onnenFfynhonnell y llun, PA

Mae'r Comisiwn Coedwigaeth wedi cadarnhau ail achos haint coed ynn yng ngogledd Cymru.

Cafodd y ffwng heintus ei ddarganfod ymysg glasbrennau mewn coedwig breifat ger Betws-y-coed.

Nid yw swyddogion wedi cyhoeddi union leoliad yr haint gan nad ydyn nhw am rwystro tirfeddianwyr eraill rhag adrodd am eu pryderon os ydyn nhw'n amau bod y ffwng yn bresennol yn eu coed nhw.

Cafodd yr achos cyntaf ei ganfod yng Nghymru mewn coetir yn Sir Gâr yn gynharach ym mis Tachwedd.

Bellach mae 10 achos o'r haint wedi dod i'r amlwg yng Nghymru, y mwyafrif yn y de-ddwyrain.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol