Tafarn yn agor ar ôl y llifogydd yn Llanfair Talhaiarn
- Cyhoeddwyd

Mae tafarn pentref oedd wedi gorfod cau oherwydd difrod llifogydd yn Sir Conwy yn ail-agor.
Roedd y Llew Du yn Llanfair Talhaiarn yn un o gannoedd o adeiladau yn y sir gafodd eu heffeithio ar ôl i Afon Elwy orlifo mis diwethaf.
Ond roedd staff y dafarn a'r pentrefwyr yn benderfynol o'i hail-agor cyn y Nadolig.
Bydd band jazz yn croesawu pawb am noson gymdeithasol i ddathlu'r achlysur nos Iau.
"Roedd y dafarn i gyd o dan bedwar troedfedd o dŵr," meddai Gary Clements, un o reolwyr y dafarn.
"Dyma'r enghraifft waethaf o lifogydd rydym wedi gweld mewn amser maith - daeth y dŵr i fyny hyd at y ffenestri.
"Ddaru'r dŵr fynd i lawr yn eithaf cyflym, ond roedd popeth wedyn yn fes llwyr; llaid yn bob man, a phopeth wedi eu dinistrio.
"Roedd o'n dorcalonnus, ond roedd yn rhaid i ni fwrw 'mlaen gyda'r glanhau."
Dyma'r drydedd waith ers 2007 i lifogydd effeithio ar y dafarn.
Ond y tro yma, cafodd y staff ychydig o lwc.
Cyn i'r dŵr lifo trwy'r drysau yn gynnar ar y bore Mawrth, roedden nhw eisoes wedi rhoi'r cadeiriau ar ben y byrddau er mwyn gallu glanhau'r lloriau.
Doedd 'na ddim difrod felly i'r cadeiriau.
'Job enfawr'
Ond roedd rhaid ail-osod drws derw toiledau'r merched ar ôl iddo chwyddo oherwydd y dŵr.
Dyna un o'r tasgau roedd yn rhaid i'r crefftwr Anthony Davies ei daclo.
"Rydym wedi bod yma am dros bythefnos yn ail-osod y gwaith pren," meddai.
"Mae o wedi bod yn dipyn o waith, ond mi fydd yn barod iddyn nhw i agor mewn pryd."
Cafodd 14 adeilad yn Llanfair Talhaiarn eu heffeithio gan y llifogydd.
Er bod trefi fel Rhuthun a Llanelwy wedi dioddef mwy o ddinistr, mae'r effaith wedi bod yr un mor wael i'w pentref nhw, yn ôl y trigolion.
Ond mae o hefyd wedi dod a'r gymuned at ei gilydd.
"Mae'r bobl leol wedi bod yn wych," ychwanegodd Mr Clements.
"Ar ddiwrnod y llifogydd, roedd rhai o'r bois lleol yma am dros 12 awr yn rhwygo'r hen stwff allan a chael gwared â'r holl laid daeth mewn gyda'r llifogydd.
"Roedd 'na dîm mawr ohonynt, ac roeddent wir yn wych."
Straeon perthnasol
- 24 Medi 2012