Gwahardd Lloyd Williams am bum wythnos
- Published
Mae mewnwr y Gleision Lloyd Williams wedi ei wahardd am bum wythnos wedi gwrandawiad disgyblu yn Nulyn ddydd Iau.
Cafodd y chwaraewr 23 oed ei anfon o'r cae am dacl anghyfreithlon ar Benoit Paillaugue wedi 25 o funudau o'r gêm rhwng y Gleision a Montpellier yng Nghwpan Heineken ddydd Sul.
Ni fydd y mewnwr, sydd wedi chwarae i Gymru wyth gwaith, yn chwarae eto tan Ionawr 14.
Ond bydd ar gael ar gyfer gêm gyntaf Cymru yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaerth y Chwe Gwlad ar Chwefror 2.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Rhagfyr 2012