Corff ar draeth Niwbwrch: Cyhoeddi enw
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn y daethpwyd o hyd i'w gorff ar draeth Niwbwrch, Ynys Môn, ddydd Mercher.
Roedd Robert Davies o Landudno wedi bod ar goll ers dyddiau.
Cafodd y dyn 58 oed ei weld yng Nghartref Preswyl Vaughan Lodge yn Llandudno am 4.30pm ddydd Sul.
Dywedodd yr heddlu nad yw'r farwolaeth yn amheus.
Mae teulu Mr Davies a'r crwner wedi cael gwybod.