Anrhydeddu dau o griw'r Titanic yng Nghaergybi

  • Cyhoeddwyd
PlaqueFfynhonnell y llun, Alan Southall
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Hugh Roberts ymysg y 1,517 o bobl a gollodd eu bywydau ond llwyddodd Edward Brown i oroesi

Mewn seremoni yng Nghaergybi cafodd plac ei osod er cof am ddau aelod o griw'r llong Titanic suddodd 100 mlynedd yn ôl.

Roedd Hugh Roberts ymysg y 1,517 o bobl a gollodd eu bywydau ar ôl i'r RMS Titanic daro mynydd iâ ar Ebrill 15, 1912 ond llwyddodd Edward Brown i oroesi.

Roedd Brown, oedd yn 34 oed ar y pryd yn stiward ar gyfer y teithwyr dosbarth cyntaf ac fe helpodd rhoi pobl ar y badau achub.

Aelod Seneddol Ynys Môn wnaeth ddadorchuddio'r plac yng Nghaergybi ddydd Gwener.

Claddu dan y tonnau

Mae'r gofeb yn Marine Square yn cofnodi cysylltiadau'r dref â'r Titanic a beth ddigwyddodd i'r ddau ddyn.

Yn ôl y gofeb cafodd corff Mr Roberts ei ddarganfod gan y llong CS Mackay-Bennett gafodd ei ddefnyddio i gael hyd i gyrff oedd yn arnofio ar Môr yr Iwerydd wedi i'r Titanic suddo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Un o fadau achub y Titanic gyda rhai o'r 700 o bobl wnaeth oroesi

Cafodd Mr Roberts ei gladdu dan y tonnau yn ddiweddarach.

Cafodd Mr Brown ei daflu oddi ar y llong wrth iddo geisio ei gadael ar fad achub.

Nid oedd yn gallu nofio ond llwyddodd i ddal gafael ar wregys achub tan iddo gael ei achub gan un o'r badau achub olaf i adael y Titanic.

Yn gynharach eleni dywedodd ei or-or-nith, Olivia Goulding wrth BBC Cymru: "Dywedodd ei fod yn y dŵr mor hir roedd ei draed wedi chwyddo gymaint eu bod yn dechrau torri trwy ei sgidiau ond fe lwyddodd i afael ar un o rwyfau'r bad achub."

Bu farw Mr Brown mewn sanatoriwm yn Lerpwl pan oedd yn 48 oed gan adael gwraig a merch chwe blwydd oed.