M4: Torri dau berson o'r cerbydau
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid torri dau berson allan o'u cerbydau yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar yr M4 ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r draffordd rhwng cyffordd 36 (Sarn) a chyffordd 37 (Y Pîl) am tua 11:15pm nos Iau.
Erbyn i'r gwasanaeth tân gyrraedd, fe welon nhw fod un cerbyd wedi gadael y draffordd ar y lon tua'r gorllewin.
Roedd y gwasanaeth ambiwlans ar y safle hefyd, ond does dim manylion am unrhyw anafiadau wedi cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd.