Rhew yn achosi trafferthion

  • Cyhoeddwyd
ffyrdd llithrigFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhew du ar y ffordd yn achosi trafferthion yn Sir Ddinbych fore Gwener.

Cafodd A494 ar gau yn Rhuthun wedi i'r gwasanaethau brys ofyn am hynny am resymau diogelwch.

Caewyd y ffordd i'r ddau gyfeiriad rhwng y B5105 (Stryd Mwrog) a'r A5104 (Clawdd Poncen), ond bellach mae wedi ailagor.

Cafodd yr A494 hefyd ei chau am gyfnod rhwng y B5429 (Llanbedr Dyffryn Clwyd) a'r A5119 (Ffordd Rhuthun, Gwernymynydd) gan effeithio ar drafnidiaeth rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug, ond mae'r rhan yna o'r ffordd bellach wedi ailagor.

Daeth rhybudd hefyd gan Traffic Cymru am yr A5 rhwng Llangollen a Chorwen. Mae'r heddlu wedi adrodd hanes sawl damwain fechan ar y ffordd, ac mae'r rhew yn achosi trafferthion i lawer.

Dylai pobl deithio gyda gofal ar y ffordd.