Undeb yn beirniadu amseru cyhoeddiad
- Published
Mae undeb athrawon mwyaf Cymru wedi beirniadu amseru gwybodaeth am fandio ysgolion Cymru.
Dywedodd NUT Cymru fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi'r wybodaeth ar ddiwedd tymor yr hydref yn golygu y byddai'r mater ar feddyliau athrawon dros y Nadolig.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion bandio ysgolion Cymru ddydd Mawrth, Rhagfyr 18.
Dywedodd ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans: "Mae amseru bandio eleni yn dangos ychydig neu ddim ystyriaeth i athrawon a thimau arweinyddiaeth ysgolion.
"Mae cyhoeddi'r bandio mor hwyr â hyn yn y tymor yn golygu y bydd penaethiaid a'u dirprwyon yn gorfod delio gyda galwadau rhieni gydag ychydig iawn o amser i ateb unrhyw bryderon.
"Fe fydd hefyd yn gadael yr athrawon mewn sefyllfa lle mae effeithiau negyddol bandio yn aros gyda nhw dros gyfnod y Nadolig.
'Ddim yn deg'
"Dyw cyhoeddi'r wybodaeth yn nyddiau ola'r tymor ddim yn deg i staff ysgolion na rhieni.
"Rydym wedi dadlau ers tro y byddai bandio mewn dull tablau cynghrair fel hyn yn cael effaith niweidiol ar ysgolion.
"Yn anffodus, mae'n ymddangos bod y pryderon hynny wedi eu gwireddu dros y 12 mis diwethaf."
Cafodd y wybodaeth am fandio ysgolion yn y flwyddyn addysgol ddiwethaf ei chyhoeddi yn Ionawr ar ddechrau tymor y gwanwyn.
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Ionawr 2012
- Published
- 3 Rhagfyr 2011
- Published
- 11 Ionawr 2012
- Published
- 11 Ionawr 2012
- Published
- 11 Ionawr 2012
- Published
- 11 Ionawr 2012