Milwr: Tair blynedd a hanner wedi lladrad arfog yn Wrecsam
- Published
Mae milwr 20 oed wedi ei anfon i ganolfan troseddwyr ifanc am dair blynedd am ladrad arfog mewn siop yn ardal Wrecsam.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Stephen Evans wedi dweud iddo gyflanwi'r drosedd ym Mrynteg er mwyn osgoi mynd yn ôl i Afghanistan.
Dywedodd ei fod yn ei chael hi'n anodd ymdopi ag effeithiau rhyfel.
Roedd wedi mynd i'r siop gwn awyr a bygwth lladd dau gynorthwyydd.
Yn waglaw
Clywodd y llys ei fod wedi meddwi pan nad oedd ar ddyletswyddau milwr ac wedi penderfynu y byddai'n lladrata.
Gadawodd y siop yn waglaw cyn mynd yn ôl a dwyn ychydig o alcohol.
Awgrymodd Mark Connor ar ran yr amddiffyn y dylai'r diffynnydd gael dedfryd ohiriedig o hyd at ddwy flynedd.
Penderfynodd y Barnwr Philip Hughes y dylai gael dedfryd o dair blynedd a hanner yn lle pedair oherwydd effaith y rhyfel arno yn Afghanistan.
"Mae'n amlwg eich bod am ddwyn yr arian," meddai.