Darlithydd ar drywydd hanes Gŵyl y Glaniad

Dr Geraldine Lublin Image copyright Prifysgol Abertawe
Image caption Bu Dr Lublin yn ymchwilio yn Archif Hanesyddol Talaith Chubut

Mae dilyn trywydd Gŵyl y Glaniad ym Mhatagonia o'i chychwyn er mwyn deall ei datblygiad ar hyd y degawdau wedi bod yn "agoriad llygad" i ddarlithydd prifysgol.

Caiff Gŵyl y Glaniad ei ddathlu yn flynyddol ar Orffennaf 28, yr union ddyddiad y glaniodd y Cymry cyntaf ym Mhorth Madryn ar fwrdd llong y Mimosa.

Bu Dr Geraldine Lublin, darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Sbaeneg yn adran ieithoedd, cyfieithu a chyfathrebu Prifysgol Abertawe, yn ymweld ag Archif Hanesyddol Talaith Chubut er mwyn ei chynorthwyo gyda'r gwaith ymchwil.

'Cymeradwyaeth swyddogol'

Dywedodd Dr Lublin, sy'n enedigol o'r Ariannin: "Gŵyl y Glaniad yw gŵyl fwyaf arwyddocaol Cymry'r Wladfa ac mi fydd 2015 yn nodi 150 o flynyddoedd ers i'r fintai gyntaf o Gymry ymsefydlu ym Mhatagonia.

''Mae archwilio hanes yr ŵyl ar drothwy ei phenblwydd wedi bod yn agoriad llygad, gan i mi ddarganfod pa mor gynnar wnaeth yr Ŵyl ennill cymeradwyaeth swyddogol gan awdurdodau'r Ariannin.

"Gwelais yn y Drafod bod Rhaglaw Chubut, Y Cadfridog Alejandro Conesa, wedi annerch yn nathliad Gŵyl y Glaniad 1900 gan ddweud: 'Rhaid i ni gofio bod popeth sydd yn Chubut heddiw'n ddyledus i'r grŵp hwnnw o 153 o bobl a laniodd ym Mhorth Madryn 35 o flynyddoedd yn ôl'".

Cafodd Dr Lublin gyfraniad o £500 gan Gronfa Goffa Thomas Ellis i dalu at y gost o deithio i Chubut.

"Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r gwaith, a hoffwn ddiolch i Gronfa Goffa Thomas Ellis wnaeth fy ngalluogi i deithio i Batagonia er mwyn creu cysylltiadau a chasglu gwybodaeth mor werthfawr.''

Yn ystod yr ymweliad, rhoddodd Dr Lublin ddarlith am y pwnc yn Fforwm Rhyngwladol y Cymry ym Mhatagonia, fforwm a gynhelir bob yn ail flwyddyn er mwyn rhannu gwybodaeth am wahanol agweddau ar ddiwylliant Cymry Patagonia.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.