'Angen adolygiad' o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
Tomos Livingstone
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Dylid cynnal adolygiad trylwyr o'r swyddfa sy'n gyfrifol am wariant Ewropeaidd yng Nghymru, yn ôl pwyllgor o Aelodau Cynulliad.
Mae'r adroddiad newydd yn galw am ad-drefnu "radical" Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), a hynny "ar fyrder".
Bu pwyllgor cyllid y Cynulliad yn craffu ar dros £1.7 biliwn o wariant Undeb Ewropeaidd yng Nghymru ers 2007.
Maen nhw'n casglu fod targedau wedi'u taro, ond fod cwestiynau ynglŷn â sut y mae'r arian yn cael ei wario.
Mae cwynion wedi codi am waith WEFO "dro ar ôl tro", medd yr adroddiad, gyda phryderon penodol dros arweinyddiaeth a'r canllawiau sydd ar gael i fentrau sy'n paratoi cais am arian.
'Diffiniad clir'
Dywedodd Jocelyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Mae gan y Pwyllgor bryderon dros ddiffyg arweinyddiaeth, cydlyniad a monitro a pha effaith y mae'r cronfeydd hyn yn ei chael ar gymunedau yng Nghymru.
"Felly, rydym am weld adolygiad cyfanwerthu o ddiben a rôl Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a diffiniad clir o flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru yn y dyfodol."
Rhwng 2007-2013 mae £1.69 biliwn wedi bod ar gael ar gyfer hybu'r economi yng ngorllewin Cymru a chymoedd y de.
Mae trafodaethau'n parhau ym Mrwsel dros y gyllideb saith mlynedd nesa', sy'n dechrau yn 2014.
Mae Llywodraeth Prydain am weld y gyllideb yn ei chyfanrwydd yn cael ei rewi, ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud na ddylai hyn ddigwydd ar draul yr arian sy'n dod i ardaloedd difreintiedig.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd adolygiad annibynnol yn cael ei chynnal i wariant Ewropeaidd wedi 2013.