Y Cymry'n gwario llai dros y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Bagiau siopau
Disgrifiad o’r llun,
Prysurdeb yn y siopau ond gwario llai

Mae traean oedolion Cymru yn dweud y byddan nhw'n gwario llai na llynedd dros y Nadolig.

Ymchwil Beaufort gynhaliodd bôl piniwn ar gyfer papur newydd y Western Mail.

Ddeng niwrnod cyn yr Ŵyl mae 23% wedi dweud y bydden nhw'n gwario mwy eleni na'r llynedd a 41% yn gwario'r un faint eleni.

Y cwestiwn i 1,009 o oedolion dros 16 oed oedd: "O feddwl faint y byddwch yn ei wario yn ystod y Nadolig eleni, ydych chi'n meddwl y byddwch yn gwario mwy, llai neu tua'r un faint ag y gwnaethoch y flwyddyn ddiwethaf?"

Dywedodd 37% o ferched eu bod yn llai tebygol o wario'r Nadolig hwn tra dywedodd 31% o ddynion yr un peth.

Oedolion ifanc oedd yn barod i wario mwy'r Nadolig yma, yn ôl yr arolwg, gyda 31% o'r rhai rhwng 16-34 oed yn dweud y byddan nhw'n gwario mwy na'r llynedd.

Amrywiaeth

Roedd y rhai rhwng 35 a 54 oed yn fwy tebygol o wario llai (39%) a 53% o oedolion 55 a hŷn yn disgwyl gwario'r un faint ar y dathliadau eleni o gymharu â'r llynedd.

Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn rhagweld mai rhai sy'n byw yn y canolbarth a gorllewin Cymru (Ceredigion, Powys, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro) sy'n fwy tebygol o wario llai (41%) ac felly yn llai tebygol o wario mwy eleni (17%).

Yn y gogledd (Ynys Môn, Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam) a'r de orllewin, (Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr) does 'na ddim llawer o amrywiaeth rhwng y nifer sy'n dweud y byddan nhw'n gwario mwy, llai neu'r un peth wrth gymharu â'r sefyllfa gyffredinol.

Ond yn y cymoedd, (Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili a Blaenau Gwent) mae cyfartaledd ychydig yn uwch na'r cyffredin yn gwario llai (38%).

Yng Nghaerdydd a de ddwyrain Cymru, (Caerdydd, Bro Morgannwg, Torfaen, Sir Fynwy, Casnewydd) mae rhan fwyaf o bobl yn disgwyl gwario'r un faint y Nadolig hwn o'i gymharu â'r llynedd (47%).