Sefydlu ficer newydd i ardal weinidogaeth Bro Enlli

  • Cyhoeddwyd
Aberdaron
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd y gwasanaeth yn Eglwys Hywyn yn Aberdaron am 2.30pm

Mae arweinydd newydd yn cael ei sefydlu ar gyfer ardal weinidogaethu newydd Esgobaeth Bangor ddydd Sadwrn.

Mae Ardal Weinidogaethu Bro Enlli yn dod â phlwyfi Aberdaron, Llanfaelrhys, Llangain a Llanengan, a Llanbedrog a Llanor at ei gilydd.

Mewn gwasanaeth arbennig yn Eglwys Hywyn Sant yn Aberdaron mae'r ardal weinidogaethu yn cael ei sefydlu yn ogystal â chroesawu'r arweinydd newydd a'i thîm gweinigogaethol.

Y ficer newydd yw'r Parchedig Susan Blagden.

Fe fydd hi'n arwain tîm sy'n cynnwys nifer o bobl leyg a'r Hybarch Andrew Jones Archddiacon Meirionnydd, sydd wedi ei leoli yn Llanbedrog.

Yr Ardal Weinidogaethu yw'r trydydd i'w sefydlu gan Esgobaeth Bangor.

'Cyfle cyffrous'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Esgobaeth bod hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod y weinidogaeth a chenhadaeth yr Eglwys yn gwasanaethu pobl y gymuned leol yn gyfrifoldeb holl bobl yr Eglwys, nid y ficer yn unig.

Dywedodd y Parchedig Blagden ei bod yn edrych ymlaen at ddod i adnabod pobl Bro Enlli yn well.

"Dwi'n edrych ymlaen at gael y cyfle i archwilio ffyrdd newydd o ddarparu cenhadaeth a gweinidogaeth yma.

"Mae gennym gyfle cyffrous i ddatblygu tîm o bobl leyg ac ordeiniedig a all weinidogaethu'n effeithiol yn ein cynulleidfaoedd presennol, yn ogystal ag ymestyn allan at y bobl o'n hamgylch ac at yr ymwelwyr niferus sy'n dod i'r ardal hon bob blwyddyn."

Dyw'r Parchedig Blagden ddim yn ddieithr i'r ardal.

Wedi ei yn magu yn Warrington yn Sir Gaer bu'n mynychu nifer o wersylloedd ieuenctid Cristnogol ym Mhen Llŷn, pan yn iau.

Yn y blynyddoedd diweddar mae hi wedi treulio llawer o'i hamser hamdden yn yr ardal ac mae hi'n addoli'n rheolaidd yn Aberdaron.

Wedi gadael yr ysgol i astudio yn Rhydychen, gweithiodd yn y byd cyhoeddi cyn ymuno â thîm iechyd meddwl cymunedol yng nghanol Rhydychen.

Dros sawl blwyddyn ystyriodd yr alwad i weinidogaeth ordeiniedig ac fe gafodd ei hordeinio'n ddiacon yn 1999 ac yn offeiriad yn 2000.

Roedd yn ficer dan hyfforddiant yng Ngweinidogaeth Tîm Grantham yn Sir Lincoln cyn dod yn Gaplan yn Ysbyty Stoke Mandeville.

'Dyfnder ysbrydol'

Yn 2009 cafodd ei phenodi yn Rheithor Bangor Monachorum (Bangor Is-y-coed), Worthenbury a Marchwiel ger Wrecsam.

Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ac mae'n edrych ymlaen at ei defnyddio'n rhan o'i gweinidogaeth.

Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn ffotograffiaeth ac mae'n hoffi dod o hyd i ffyrdd i gyfuno'i ffotograffiaeth gyda'i thaith ysbrydol.

Dywedodd Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John ei bod yn "fendigedig gallu croesawu rhywun o safon Susan i Esgobaeth Bangor".

"Mae'n dod â llawer o brofiad o weithio mewn gwahanol sefyllfaoedd tîm ac mae'n cyfannu hyn gyda'i dyfnder ysbrydol a'i thalentau creadigol.

"Mae gan Ardal Weinidogaethol Bro Enlli lawer i edrych ymlaen ato."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol