Gweilch 17-6 Toulouse
- Cyhoeddwyd

Gweilch 17-6 Toulouse
Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth haeddiannol yn erbyn Toulouse yng Nghwpan Heineken yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn, gan ddial am y golled o 30-14 yn ne Ffrainc wythnos yn ôl.
Cais gwych gan seren y gêm Eli Walker oedd yn allweddol, gan ailgynnau eu gobeithion o gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Carlamodd Walker hebio i dri amddiffynnydd i gyrraedd y gornel chwith.
Roedd Toulouse, sydd wedi bod yn bencampwyr Ewrop bedair gwaith, yn edrych yn rhyfeddol o ddifflach, ond fe wnaeth Jean Marc Doussain eu cadw yn y gêm gyda chic gosb a chic adlam.
Disgyblaeth
Ond manteisiodd y maswr Dan Biggar ar ddiffyg disgyblaeth yr ymwelwyr trwy gicio 12 pwynt.
Cafodd y clo Patricio Albacete a chapten y Ffrancod Jean Bouilhou ill dau gerdyn melyn am ddiffyg disgyblaeth.
Roedd symudiad olaf y gêm yn symbolaidd o berfformiad Toulouse - wrth iddyn nhw wrthymosod ar y dde, gyda dyn yn sbâr a'r llinell gais yn gwahodd, aeth y bas olaf heibio'r dyn ac i mewn i'r ystlys.
Roedd 'na hwb i'r Gweilch a thîm Cymru wrth i'r prop Adam Jones ddod oddi ar y fainc yn gynnar yn yr ail hanner.
Mae Jones, sydd wedi ennill 83 cap dros Gymru, wedi llwyr wella o'r anaf i'w ben-glin a gafodd wrth i'r Gweilch golli o 39-22 yn erbyn Caerlŷr ym mis Hydref.
Timau
Gweilch: Richard Fussell; Ross Jones, Andrew Bishop, Ashley Beck, Eli Walker; Dan Biggar, Kahn Fotouali'i (capt); Ryan Bevington, Richard Hibbard, Campbell Johnstone, Ian Gough, James King, Ryan Jones, Justin Tipuric, Joe Bearman.
Eilyddion: Scott Baldwin, Duncan Jones, Adam Jones, Lloyd Peers, George Stowers, Rhys Webb, Matthew Morgan, Tom Isaacs.
Toulouse: Maxime Medard; Vincent Clerc, Yann David, Gael Fickou, Yoann Huget; Jean Marc Doussain, Luke Burgess; Vasil Kakovin, Gary Botha, Census Johnston, Yoann Maestri, Patricio Albacete, Jean Bouilhou (capt), Thierry Dusautoir, Louis Picamoles.
Eilyddion: Christopher Tolofua, Jean-Baptiste Poux, Yohann Montes, Romain Millo-Chluski, Yannick Nyanga, Gregory Lamboley, Yannick Jauzion, Sebastien Bezy.
Dyfarnwr: George Clancy (Iwerddon)
Caerwysg 30-20 Scarlets
Caerwysg (20) 30
Ceisiau: Whitten, Alcott, Scaysbrook Trosiad: Steenson 3 Ciciau cosb: Steenson 3
Scarlets (13) 20
Ceisiau: Owen, Williams Trosiad: A Thomas 2 Cic gosb: A Thomas
Er i'r Scarlets frwydro yn ôl yn yr ail hanner, fe wnaeth Caerwysg wrthsefyll eu her i ennill o ddeg pwynt.
Daeth y Scarlets, a gollodd 22-16 i Gaerwysg yr wythnos ddiwethaf, yn ôl o 17-3 i lawr hanner ffordd trwy'r hanner cyntaf i fod yn gyfartal 20-20 wedi 42 munud.
Ond fe giciodd Gareth Steenson ei drydedd gic gosb wedi 61 munud i roi Caerwysg yn ôl ar y blaen.
A seliwyd y fuddugoliaeth gyda chais y capten James Scaysbrook yn eiliadau olaf y gêm.
Montpellier 34-21 Gleision Caerdydd
Montpellier (17) 34
Ceisiau: Nagusa, Van Vuuren, Audrin, Beattie. Trosiad: Bustos Moyana 4 Ciciau cosb: Bustos Moyana 2
Gleision (8) 21
Ceisiau: Warburton, Cuthbert Trosiad: Patchell Ciciau cosb: Patchell 3
Hon oedd y bedwaredd gêm yn olynol i'r Gleision golli yng nghwpan Heineken, er iddynt frwydro'n galed yn erbyn Montpellier, a enillodd gyda phwynt bonws.
Roedd y Cymry ar y blaen 8-3 wedi cais Sam Warburton a chic gosb Rhys Patchell.
Ymatebodd y Ffrancod gyda cheisiau gan Timoci Nagusa, Rassie van Vuuren a Yohan Audrin.
Brwydrodd y Gleision yn ôl gyda chais gan Alex Cuthbert ond seliwyd y fuddugoliaeth i Montpellier gyda chais Johnnie Beattie wedi 58 munud.
Straeon perthnasol
- 8 Rhagfyr 2012