Caerdydd 1-2 Peterborough
- Published
image copyrightGetty Images
Mae record 100% Caerdydd ar eu tomen eu hunain y tymor hwn wedi dod i ben, a hynny yn erbyn y tîm oedd ar waelod y Bencampwriaeth ar ddechrau'r diwrnod.
A'r siom fwyaf i Malky Mackay fyddai'r ffaith bod Peterborough yn haeddu eu buddugoliaeth.
Michael Bostwick roddodd Peterborough ar y blaen wedi 22 munud gyda chic rydd nerthol a roddodd fawr o obaith i David Marshall.
Dyblodd yr ymwelwyr y fantais wedi 47 munud wrth i Dwight Gayle rwydo wedi gwrthymosodiad.
Cafwyd gôl gysur wedi 89 munud gan Rudy Gestede, ond rhy ychydig rhy hwyr.
Ond mae Caerdydd yn parhau ar frig y Bencampwriaeth, gan fod yn ddiolchgar mai dim ond gêm gyfartal 2-2 y cafodd Crystal Palace yn Birmingham.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol