Colli Gwyneth Morus Jones
- Cyhoeddwyd

Bu farw cyn-lywydd Mudiad Ysgolion Meithrin, undeb athrawon UCAC a Merched y Wawr, Gwyneth Morus Jones yn 68 oed.
Roedd hi hefyd yn un o aelodau olaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn ddarpar-Lywydd Undeb yr Annibynwyr ac fe dderbyniodd wisg wen yr Orsedd - ynghyd â'i gŵr Edward Morus Jones - yn 2003.
Roedd yn fam i'r llawfeddyg Awen Iorwerth a'r darlledwr Rhun ap Iorwerth.
Bu'n dioddef o salwch byr.
'Gwasanaeth enfawr'
Dywedodd Gorsedd y Beirdd am Gwyneth a'i phriod yn 2003: "Gŵr a gwraig a roes wasanaeth enfawr i Gymru, a'u cyfraniadau'n cyd-redeg fel nad oedd modd eu gwahanu.
"Magwyd Gwyneth ym Mhwllheli ac Edward yn Llanuwchllyn, a bu dylanwad capel ac eisteddfod yn drwm arnynt ers bore oes. Bu'r ddau'n athrawon ysgol a bu Edward yn brifathro Ysgol Gynradd Llandegfan.
"Chwaraeodd y ddau ohonynt ran amlwg yn Eisteddfod Llandegfan a hynny am chwarter canrif. Buont yn amlwg hefyd yng ngweithgarwch Eisteddfod Môn a'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Buont yn weithgar hefyd gydag Urdd Gobaith Cymru a Mudiad Ysgolion Meithrin, a bu'r ddau yn eu tro yn Llywyddion Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru - yr unig ŵr a gwraig i dderbyn yr anrhydedd.
"Buont yn dra ffyddlon i'r eglwys lle maent yn aelodau ac yn ddiaconiaid, sef Eglwys y Tabernacl, Porthaethwy.
"Buont yn drwm eu dylanwad yn y filltir sgwâr a ledled Cymru".