Dyn 21 oed ag anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r heddlu ar 101
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 21 oed gael anafiadau difrifol i'w ben mewn damwain ar Stryd Fawr Bagillt, Sir y Fflint ddydd Sadwrn.
Digwyddodd y ddamwain am 2.30 y bore pan fu car Peugeot glas mewn gwrthdrawiad â'r dyn.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar rif Taclo'r Tacle, 0800 555 111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol