Tottenham 1-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Ki Sung-Yueng yn brwydro gyda Sandro
Bu'n rhaid i Spurs fod yn hynod amyneddgar cyn cael y gorau ar amddiffyn Abertawe, ac ergyd gelfydd gan Jan Vertonghen oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn White Hart Lane.
Wedi cic rydd gan Kyle Walker, cafodd y bêl ei phenio gan yr amddiffynnwr Ben Davies i lwybr Vertonghen, a lywiodd y bêl heibio i Gerhard Tremmel wedi 75 munud.
Ni chafodd Abertawe fawr o gyfleoedd ond maen nhw'n parhau yn ddegfed er gwaetha'r ail golled yn olynol.
Mae Spurs yn codi i'r pedwerydd safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd29 Medi 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol