Actor yn euog o dreisio merch 15 oed
- Cyhoeddwyd

Mae actor wedi ei gael yn eog o dreisio merch 15 oed oedd yn feddw ar ôl parti mewn tŷ yn ardal Casnewydd.
Roedd Simon Morris wedi gwadu'r cyhuddiad gan ddweud ei fod yn gwneud pethau yn ddiarwybod yn ei gwsg.
Bydd Morris, 42 oed, sy'n byw yn Llundain yn cael ei ddedfrydu yn y Flwyddyn Newydd.
Roedd wedi honni wrth Lys y Goron Caerdydd nad oedd e'n gwybod ei fod wedi cael rhyw gyda'r ferch tan i'r heddlu ddatgelu profion DNA iddo.
Gweini
Clywodd y llys ei fod wedi helpu'r ferch i weini siampên i westeion yn y parti.
Aeth y ferch i gysgu am 6am yn y tŷ ar ôl i'w thad ei rhoi mewn ystafell wely i fyny'r grisiau.
Dywedodd Sue Ferrier ar ran yr erlyniad "Er i'w thad geisio ei deffro ar ôl 6am fe fethodd, ac fe'i gadawodd i gysgu.
"Erbyn 6.30 am roedd y ferch yn gweiddi iddi gael ei thresio."
Dywedodd Morris wrth y llys: "Mae gennyf hanes o gerdded yn fy nghwsg, a hefyd o gael rhyw gyda fy mhartneriaid tra'n cysgu"
Profion
Cafodd brofion mewn canolfan cwsg arbennig yng Nghaeredin, a dywedodd y seicolegydd Chris Dzikowski, cyfarwyddwr yn y ganolfan, iddo gynnal profion electroneg ar batrymau cwsg y diffynnydd.
"Roedd o'n eistedd i fyny, yn symud yn anarferol ac yn symud ei ddwylo mewn modd pendant," meddai.
"Roedd yna nodweddion sy'n gyson gyda pherson sy'n cerdded yn ei gwsg."
Dywedodd nad oedd o'n gallu diystyru bod y diffynnydd yn dioddef o gyflwr sy'n cael ei adnabod fel sexsomnia - sef rhywun sy'n cael rhyw yn ei gwsg.
Ond cafwyd Morris yn euog o dreisio gan y rheithgor, o fwyafrif o 10-2, a rhybuddiodd y barnwr Daniel Williams ei fod yn wynebu cyfnod hir o garchar.
Roedd Morris wedi ymddangos gyda Michael Caine yn y ffilm Shiner ac yn y gyfres Hollyoaks yn 2001, a bu hefyd yn perfformio ar lwyfannau'r West End rhwng 1996 a 2006.