Canfod corff gwraig o Sir Fynwy yng Ngwlad yr Haf

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod corff dynes o ardal Trefynwy wedi ei ganfod yn Burnham-on-Sea, Gwlad yr Haf.

Cafwyd hyd i gorff Maureen McMeeking, 49 oed, ar Ragfyr 9.

Bu hi ar goll o ardal Trefynwy ers Hydref 23.

Mae teulu Ms McMeeking wedi cael gwybod.

Mae Heddlu Gwent yn cydweithio gyda Heddlu Gwlad yr Haf ac Avon.

Cafodd y manylion eu trosglwyddo i'r crwner.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol