Lee Byrne wedi torri asgwrn yn ei gefn
- Published
image copyrightGetty Images
Fydd cefnwr Cymru Lee Byrne ddim yn chwarae tan ar ôl y Flwyddyn Newydd ar ôl torri asgwrn yn ei gefn.
Cafodd y chwaraewr 32 oed yr hanaf yn ystod gêm ei dîm Clermont Auvergne pan wnaethon nhw drechu Leinster yng Nghwpan Heineken o 28-21.
Mewn datganiad fe wnaeth y tîm o Ffrainc gadarnhau iddo dorri ei bumed fertebra.
Dydi Byrne ddim wedi chwarae dros Gymru ers iddo ennill ei 46ain cap yng Nghwpan y Byd 2011.
Ymunodd a'r clwb yn Ffrainc at gytundeb am dri thymor ar ddechrau tymor 2011-12 ond wnaeth o ddim ymuno a'r garfan tân ar ôl y bencampwriaeth yn Seland Newydd.
Er ei anaf mae Byrne, enillodd y Gamp Lawn gyda Chymru yn 2005 a 2008, yn dal yn un sy'n cael ei ystyried ar gyfer dyletswyddau rhyngwladol.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol