Achub holl swyddi cwmni solar
- Cyhoeddwyd

Mae 42 o swyddi oedd o dan fygythiad pan aeth cwmni paneli solar yng Nghaerdydd i ddwylo'r gweinyddwyr wedi cael eu hachub.
Cafodd cwmni G24 Innovations, sy'n cynhyrchu paneli solar ar gyfer dyfeisiau bychan fel gliniaduron, ei werthu ac mae'r perchnogion newydd yn gobeithio parhau gyda'r gwaith yn syth.
Dywedodd y gweinyddwyr Wilkins Kennedy y byddai'r cytundeb yn achub yr holl swyddi.
Daeth y cwmni i Gymru yn 2006 gan ddweud eu bod yn bwriadu creu 300 o swyddi technoleg gyda buddsoddiad o £60 miliwn.
Yn ôl Stephen Grant o'r gweinyddwyr: "Mae hwn yn hwb enfawr i economi Caerdydd ac yn newyddion da iawn cyn cyfnod y Nadolig.
"Nawr bod y gwerthiant wedi ei gytuno, mae gan y busnes ddyfodol disglair o'i flaen.
"Mae ganddo ystod eang o gynnyrch ac roedd eisoes wedi dechrau derbyn archebion sylweddol cyn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd11 Medi 2012
- Cyhoeddwyd23 Mai 2012