Apêl am ddyn ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wrth geisio dod o hyd i ddyn oedrannus sydd wedi bod ar goll o'i gartref ym Mhorth, Rhondda.
Cafodd William Eastely, 77 oed, ei weld y tro olaf canol dydd, dydd Llun.
Roedd yn cerdded i gyfeiriad Ffordd Aberllachau, Wattstown.
Roedd yn gwisgo cot las.
Dywed yr heddlu fod ei deulu yn bryderus iawn.
Dylai unrhyw una ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 n neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.