Galw ACau yn ôl ar gyfer pleidlais ar fudd-dal treth y cyngor
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i newidiadau i system fudd-daliadau treth y cyngor gael eu cymeradwyo gan Aelodau'r Cynulliad ddydd Mercher.
Cafodd yr aelodau eu galw yn ôl i Fae Caerdydd yn ystod eu gwyliau i bleidleisio ar y rheoliadau am yr eildro.
Mae angen i'r rheoliadau gael eu cymeradwyo er mwyn galluogi cynghorau i barhau i gynnig y budd-dal (sy'n ddibynnol ar incwm) yn y flwyddyn ariannol nesaf sy'n dechrau yn Ebrill 2013.
Mae llywodraeth y DU wedi trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y budd-dal i'r awdurdodau lleol yn Lloegr, a llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Maen nhw hefyd wedi cwtogi'r cyllid sydd ar gael o tua 10%.
Dywed Llywodraeth Cymru nad yw'n medru fforddio gwneud yn iawn am y diffyg o £22 miliwn.
Cafodd ymdrech flaenorol i gymeradwyo'r rheoliadau ei atal gan rai o ACau'r gwrthbleidiau a gwynodd fod cannoedd o dudalennau o ddogfennau technegol wedi eu cyflwyno rhyw hanner awr cyn i'r bleidlais gael ei chynnal.
O ganlyniad, mae ACau wedi eu galw yn ol i Fae Caerdydd ar gyfer ail bleidlais ddydd Mercher.
Mae disgwyl i'r Blaid Lafur ennill y bleidlais ar ôl i'r Prif Weinidog Carwyn Jones gynnal trafodaethau gyda Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Fe fydd y cynulliad yn ail drafod y mater ymhen blwyddyn o ganlyniad i gytundeb rhwng y tair plaid.
Straeon perthnasol
- 10 Rhagfyr 2012
- 7 Rhagfyr 2012
- 6 Rhagfyr 2012
- 5 Rhagfyr 2012