Gwahardd yr AC Bethan Jenkins rhag gyrru am 20 mis
- Published
Cafodd Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis ar ôl iddi bledio'n euog i yrru o dan ddylanwad alcohol.
Bydd yn rhaid i Bethan Jenkins dalu dirwy o £750, costau o £85 a dilyn cwrs ail-hyfforddiant cyn ailgychwyn gyrru.
Yn ystod yr achos yn Llys Ynadon Caerdydd, fe siaradodd yn Gymraeg i gadarnhau ei henw, ei chyfeiriad ac i bledio'n euog.
Pan gafodd Bethan Jenkins ei stopio roedd lefel yr alcohol yn ei chorff ddwywaith yn uwch na'r trothwy cyfreithiol.
Clywodd y llys iddi gael ei stopio gan yr heddlu yn Llandaf, Caerdydd yn oriau man bore Sul Hydref 14.
Dywedodd ei chyfreithiwr ei bod wedi bod mewn parti pen-blwydd ac wedi yfed gormod.
'Risg rhyfeddol'
Clywodd y llys ei bod yn simsan ar ei thraed pan ddaeth allan o'r car, yn gwisgo trowsus tebyg i un pyjama ac yn droednoeth.
Wrth ei gwahardd rhag gyrru dywedodd y barnwr Bodfan Jenkins bod y lefel alcohol yn uchel iawn a'i bod wedi cychwyn ar daith eithaf hir pan roedd ei gallu i yrru wedi ei beryglu.
Ychwanegodd bod y risg yn un rhyfeddol.
Dywedodd cyfreithiwr Bethan Jenkins bod cywilydd arni am ei gweithredoedd a'i bod yn ddrwg iawn ganddi, a'i bod yn dioddef o gyflwr meddygol cydnabyddedig, sef iselder.
'Difaru'
Mewn datganiad ar ôl yr achos, dywedodd:
"Mae hwn yn digwyddiad yr wyf yn difaru o waelod calon, ac rwyf yn ymddiheurio am fy ymddygiad.
"Y tro hwn, disgynnais yn is o lawer na'r safonau a osodais i mi fy hun, ac yr wyf felly yn derbyn penderfyniad y barnwr yn hyn o beth.
"Carwn ddiolch i'r heddlu am y dull y gwnaethant drin y broses hon.
"Bu hwn yn gyfnod anodd, lle dechreuais ddod i delerau ag iselder am y tro cyntaf.
"Mae cyfeillion ac eraill, gan gynnwys llawer o Orllewin De Cymru, y rhanbarth yr wyf i mor hynod falch o'i chynrychioli, wedi rhoi cefnogaeth ardderchog i mi, ac yr wyf wir ddiolchgar am hynny.
"Byddaf yn wastad yn ddiolchgar iddyn nhw am eu caredigrwydd, fu'n gysur mawr i mi."