Hillsborough: Gorchymyn cwest newydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r Uchel Lys wedi diddymu rheithfarnau mewn cwest blaenorol i farwolaethau 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl a fu farw yn dilyn trychineb Hillsborough yn 1989.
Mae'r Arglwydd Brif Ustus Yr Arglwydd Judge wedi gorchymyn cwest arall yn dilyn cais gan y Twrnai Cyffredinol.
Dywedodd Trevor Hicks o Grŵp Cefnogi Teuluoedd Hillsborough bod hyn yn "gam enfawr i'r teuluoedd".
Mae Ysgrifennydd Cartref hefyd wedi cyhoeddi ymchwiliad heddlu newydd i'r trychineb.
Dywedodd Theresa May y byddai'r ymchwiliad newydd yn ail-ystyried yr hyn ddigwyddodd ar Ebrill 15, 1989.
'Dioddef'
Mae Joan Hope, mam i John O'Brien o Dreffynnon a fu farw yn y trychineb, wedi croesawu'r penderfyniad, a dywedodd:
"Yn amlwg mae'n gam i'r cyfeiriad cywir - mae'n dangos pa mor wallus oedd y cwest gwreiddiol.
"Mae'r ffaith y bydd rhaid i mi fynd drwy hyn i gyd eto yn mynd i fod yn anodd.
"Fe gymerais i air y crwner nad oedd y rhai fu farw wedi dioddef oherwydd doeddwn i ddim am feddwl am y peth.
"Fi wnaeth adnabod corff John ac roedd yn edrych 20 mlynedd yn hyn felly yn amlwg roedd wedi dioddef."
'Tanseilio crynodeb'
Tystiolaeth feddygol newydd oedd sail y cais am gwest newydd.
Dywedodd y twrnai cyffredinol Dominic Grieve bod adroddiad panel Hillsborough a gyhoeddwyd ar Fedi 12 wedi cadarnhau y gellid fod wedi achub o leiaf 41 o'r rhai fu farw.
Dywedodd Mr Grieve bod y dystiolaeth newydd yn "tanseilio crynodeb y crwner yn y cwest gwreiddiol".
Ychwanegodd yr Arglwydd Brif Ustus Yr Arglwydd Judge bod "cam-wybodaeth bwriadol wedi bod ynglŷn â'r trychineb".
"Mae yna gred nad yw cyfiawnder wedi digwydd, ac mae'n glir bod seiliau cadarn i'r cais yma," meddai.
Cafodd ei feirniadaeth ei gymeradwyo gan deuluoedd rhai o'r dioddefwyr yn y llys.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling y byddai'n gwneud popeth o fewn ei allu i "sefydlu cwest newydd yn gyflym".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2012
- Cyhoeddwyd15 Medi 2012
- Cyhoeddwyd15 Medi 2012