Dros 19,000 yn ddigartref yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n hawlio cymorth gan gynghorau am eu bod yn ddigartref yn cynyddu am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Mae ffigyrau ddaeth i law BBC Cymru yn dangos bod dros 19,000 o bobl yn dweud nad oes ganddyn nhw gartref - cynnydd o tua 27% o'r flwyddyn flaenorol.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod am geisio mynd i'r afael â'r broblem gyda'r Mesur Cartrefi sydd ar y gweill.
Ond mae elusennau digartrefedd ac arbenigwyr eraill yn dweud na fydd y cynlluniau o bosib yn mynd yn ddigon pell.
£8m ar loches
Mae'r ffigyrau'n dangos bod cynghorau Cymru wedi cael galwadau gan 19,530 o bobl ddigartref yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2012.
Yn y flwyddyn ariannol flaenorol, roedd y 22 awdurdod lleol wedi delio gyda 15,324 o achosion o ddigartrefedd.
Mae'r ffigyrau sy'n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar farn yr awdurdodau am ddilysrwydd yr achosion sy'n cael eu cyflwyno iddyn nhw.
Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd gweinidogion yn derbyn mai 6,515 o bobl yng Nghymru oedd yn ddigartref.
Mae'r ffigyrau hefyd yn awgrymu y cafodd £8 miliwn ei wario ar loches dros dro yn y cyfnod yna, sy'n cynnwys unrhyw fudd-daliadau tai a dalwyd gan lywodraeth y DU.
Dywed elusennau tai y gallai'r sefyllfa waethygu oherwydd newidiadau i fudd-daliadau a threth cyngor a ddaw i rym y flwyddyn nesaf.
'Cynnydd pellach'
Dywedodd llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Dyfed Edwards, y gallai Cymru weld cynnydd sylweddol yn lefel digartrefedd dros y tair blynedd nesaf.
"Ers 2009, mae digartrefedd ar gynnydd yng Nghymru, ac er bod llywodraeth leol yn gweithio'n galed i wyrdroi'r trend yma, mae nifer y bobl sy'n wynebu risg o fod yn ddigartref yn cynyddu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf," meddai.
Yn ôl Bruce Diggins, cadeirydd Rough Sleepers Cymru a rheolwr rhanbarthol i'r elusen The Wallich, dyw'r cynnydd yn ddim syndod.
"Rydym yn gweld cynnydd blynyddol yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd ymhob ardal bron lle'r ydym yn darparu gwasanaeth," meddai.
"Er bod lloches dros dro yn cael ei ddarparu, rydym yn dal i weld pobl yn cael eu gorfodi i gysgu ar y strydoedd.
"Bydd 2013 yn gweld mwy o'r un peth, ac fe fydd sefydliadau fel ni a'r awdurdodau lleol i gyd yn gorfod gwneud mwy gyda llai o arian."
'Problem fawr'
Mynnodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod nifer y bobl sy'n cael eu cydnabod yn ddigartref gan gynghorau yn llai yn y tri mis diwethaf na dros yr un cyfnod y llynedd.
Ond ychwanegodd: "Tra bod y rhagolygon economaidd yn parhau yn ansicr ar draws y DU, a gyda mwy o doriadau gwariant a newidiadau budd-dal yn cael eu cynnig gan lywodraeth y DU, rydym yn credu y bydd problem digartrefedd yn fawr dros y blynyddoedd i ddod.
"Dyna pam yr ydym wedi cyhoeddi mwy o gyllid i gefnogi prosiectau i atal digartrefedd yn gynharach yn y mis, a dyna pam yr ydym yn parhau i weithio'n ddiflino gyda'r awdurdodau lleol a phartneriaid fel Shelter Cymru i gynorthwyo pobl i baratoi, ac i ddelio gydag effeithiau newidiadau i'r sustem fudd-daliadau a biliau tanwydd a rhent yn codi."
Straeon perthnasol
- 19 Rhagfyr 2012
- 9 Mawrth 2012