Cyhuddo gyrrwr lori wedi gwrthdrawid gyda char ger Pwllheli

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr lorri wedi cael ei gyhuddo o yrru'n beryglus ar ôl gwrthdrawiad gyda char oedd yn cynnwys dau swyddog cefnogi cymuned yr heddlu yng Ngwynedd.

Bu'n rhaid rhyddhau'r ddau o'r car Ford Fusion ar ôl y digwyddiad ar yr A499 ger Plas Gwyn, Pwllheli, ddydd Mercher.

Mae'r ddau swyddog wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Fe fydd gyrrwr y lori yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caergybi ddydd Iau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol