Casglu arian i brynu anrhegion Nadolig i deuluoedd yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Mae un o ysgolion Sir Gaerfyrddin wedi gwneud gwaith arbennig o gasglu cannoedd o anrhegion ar gyfer Apêl Teganau Nadolig y sir.
Fe wnaeth disgyblion Ysgol Tre-Gib, Llandeilo, gynnal nifer o weithgareddau i gasglu arian er mwyn prynu anrhegion yn ogystal â derbyn rhoddion gan fusnesau.
Cafodd yr anrhegion, llond chwe bin enfawr, eu rhoi i'r cyngor er mwyn iddyn nhw allu lapio cyn eu rhannu i deuluoedd lleol sy'n wynebu problemau ariannol.
"Mae hwn yn brosiect arbennig ac mae gweithio gyda'r gymuned yn rhan allweddol o'n rhaglen Bagloriaeth Cymru," meddai dirprwy bennaeth yr ysgol, Claire Williams.
"Roedd hi'n wych bod y disgyblion yn rhan o'r gwaith da yma."
Llwyddodd yr ysgol i godi tua £400 er mwyn prynu anrhegion, yn bennaf i bobl ifanc.
Ymhlith y gweithgareddau codi cafwyd stondinau gwerthu cacennau, raffl a bore coffi.
Roedd 'na apêl ar gyfer anrhegion newydd i bobl ifanc dan 16 oed gyda gwerth tua £5.
"Rydym yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth arbennig Ysgol Tre-Gib i'r apêl," meddai dirprwy arweinydd y Cyngor, Pam Palmer.
"Rydym mor falch o gael rhodd mor sylweddol a fydd yn cael ei rannu ymhlith teuluoedd llai breintiedig y sir."