Anaf yn gorfodi Richard Mustoe i ymddeol

Richard Mustoe Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Doedd Richard Mustoe ddim wedi rhagweld y byddai'n ymddeol yn 30 oed

Mae Richard Mustoe, asgellwr y Gleision wedi cael ei orfodi i ymddeol o chwarae rygbi.

Cafodd y chwaraewr 30 oed anaf difrifol i'w belfis wrth chwarae yn erbyn Treviso yn gynharach yn y flwyddyn.

Fe chwaraeodd Mustoe dros Gymru mewn rygbi saith bob ochr.

Cychwynnodd y gŵr 30 oed ei yrfa gyda chlwb rygbi Pen-y-bont ar Ogwr cyn sefydlu rhanbarth Rhyfelwyr Celtaidd.

Wedi i'r rhanbarth ddod i ben ymunodd gyda'r Gweilch cyn cael cyfnod ar fenthyg gyda'r Dreigiau.

Ymunodd gyda'r Gleision yn 2008 gan sgorio hatric ar ei ymddangosiad cyntaf dros y rhanbarth.

Cafodd ei ddisgrifio gan y rhanbarth fel chwaraewr oedd yn rhoi cant y cant bob tro.

Trefnwr angladdau

Roedd ei gyflymder a'i gryfder yn beryglus i'r gwrthwynebydd.

"Roedd chwarae i'r Gleision yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa ac fe fyddaf o hyd yn ddiolchgar am y cyfle i gynrychioli'r rhanbarth," meddai Mustoe.

"Dwi'n ddiolchgar hefyd am y gefnogaeth maen nhw wedi ei ddangos i mi yn ystod fy nghyfnod fel chwaraewr, yn enwedig yn ystod fy anaf diweddar.

"Mae wedi bod yn anodd gorfod gorffen fy ngyrfa gydag anaf."

Dywedodd ei fod wedi mwynhau chwarae rygbi, boed ar lefel broffesiynol a'i pheidio, ac y byddai wedi gobeithio parhau am fwy o amser.

Dywedodd hefyd nad yw wedi bod yn segur gan adleoli ei fusnes trefnu angladdau ym Mhorthcawl.

Wrth edrych ymlaen at y dyfodol mae'n gobeithio treulio mwy o amser yn y busnes.

"Roeddwn wedi bwriadu bod yn drefnydd angladdau yn llawn amser ar ôl i'r yrfa rygbi ddod i ben, ond ddim mor gynnar â hyn," meddai.

"Drwy Richard Webster, dwi wedi cael cyfle i hyfforddi gyda chlwb Maesteg ac rwy'n gweithio tuag at gymhwyster hyfforddi pellach."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.