Norofirws: Nifer ar gynnydd
- Published
Mae ffigyrau newydd yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer achosion Norofirws o'i gymharu â'r un adeg y llynedd.
Mae wardiau mewn nifer o ysbytai yn gwrthod derbyn cleifion oherwydd y firws.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 557 o achosion wedi eu cadarnhau eleni o'i gymharu â 334 y llynedd. Mae hynny'n gynnydd o 66%.
Fe allai'r ffigwr fod llawer yn uwch, dros 150,000, gan nad yw nifer o ddioddefwyr yn mynd i weld y meddyg.
'Taro'n gynnar'
Dywedodd Dr Marion Lyons, o Iechyd Cyhoeddus Cymru, ei bod hi'n ymddangos fod i firws wedi taro'n gynnar eleni.
"Mae'n nodwedd o'r firws - mae'n hawdd i'w drosglwyddo o un person i'r llall.
"Pe bai plentyn yn cyfogi yn yr ysgol, dydi ddim o bwys pa mor drwyadl yw'r glanhau mae'n dal bosib canfod y firws wythnos yn ddiweddarach."
Led led Cymru mae:
- Pedair ward ar gau yn Ysbyty Tywysog Charles, Merthyr;
- Dwy ward ar gau i gleifion newydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant;
- Chwe ward ar gau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd;
- Dwy ward ar gau yn Ysbyty Landochau;
- Dwy ward ar gau yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Straeon perthnasol
- Published
- 11 Rhagfyr 2012