Defnyddio gwyddoniaeth i hybu ieithoedd mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion Ysgol Uwchradd Y Bont-faen
Disgrifiad o’r llun,
Disgyblion yn Ysgol Gyfun Y Bontfaen yn cymryd arnynt eu bod yn beirianwyr electroneg sy'n gwerthu cynnyrch newydd i'r Almaen

Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd - CiLT Cymru - yn troi at wyddoniaeth er mwyn ceisio annog disgyblion i ddewis astudio iaith dramor.

Dros y blynyddoedd diwethaf, bu cwymp sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n dewis gwneud hynny ar gyfer arholiadau TGAU.

Mae CiLT Cymru nawr yn gweithio gyda 32 o ysgolion er mwyn canfod ffyrdd newydd o annog plant i astudio iaith.

Yn eu plith mae cynllun gyda Stemnet - rhwydwaith sy'n hybu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Mae'r cynllun am i ddisgyblion ystyried y cyfleoedd am swyddi sy'n dod o gyfuno pynciau gwyddonol gydag iaith.

Bwlch sgiliau

Mae astudio'r gwyddorau ar gyfer TGAU yn orfodol yng Nghymru, ond nid yw ieithoedd modern.

Mae disgyblion TGAU yng Nghymru â dewis o 30 o gyrsiau o leiaf, ond ychydig sy'n dewis ieithoedd modern, a dros y pum mlynedd diwethaf mae'r nifer sy'n astudio Ffrangeg wedi disgyn 28% a 38% mewn Almaeneg.

Mae Kristina Hedges yn gweithio gyda CiLT Cymru, ac yn rhybuddio bod angen i Gymru aros yn gyfartal gyda gweddill Ewrop o safbwynt sgiliau iaith os ydyn nhw am gystadlu ar lwyfan byd eang.

"Dangosodd arolwg diweddar o gyflogwyr bod 45% ohonynt angen pobl sydd â sgiliau iaith ar gyfer eu busnesau," meddai.

"Os mai dim ond un o bob pedwar person ifanc sy'n dewis astudio iaith yn yr ysgol uwchradd, yna mae yna fwlch rhwng yr hyn sydd angen ar y wlad a'r hyn yr ydym yn ei ddarparu yn nhermau sgiliau ein pobl ifanc."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i hybu ieithoedd modern mewn ysgolion.

Nid yw'n orfodol mewn ysgolion cynradd chwaith, ond dywedodd llefarydd fod canllawiau ar gael i ysgolion sy'n dewis dysgu'r pynciau, a'u bod yn annog eraill i ymgorffori hynny i'w cwricwlwm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol