Mewn Llun: Cyfnod Rowan Williams fel Archesgob
- Cyhoeddwyd

Mae Dr Rowan Williams, Archesgob Caergaint, yn rhoi'r gorau i'r swydd ar ddiwedd 2012 er mwyn ymgymryd â swydd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Yn ystod ei 10 mlynedd yn y swydd mae wedi siarad am amryw o faterion gan gynnwys clerigwyr hoyw, cyfraith Sharia, Osama bin Laden, y rhyfel yn Irac, yr amgylchedd, y fasnach gaethweision ac ordeinio menywod.

Daeth Dr Williams yn arweinydd yr Eglwys Anglicanaidd, sydd, ledled y byd, ag 85 miliwn o aelodau ym mis Rhagfyr 2002 wedi i Dr George Carey ymddeol.
Yn fab i beiriannydd mwyngloddio, cafodd Rowan Williams ei eni yn Abertawe yn 1950. Roedd yn rhagori ym mhob pwnc yn yr ysgol heblaw un - roedd ganddo nodyn parhaol yn ei esgusodi o wersi chwaraeon. Ef oedd y Cymro Cymraeg cyntaf am o leiaf mileniwm i wasanaethu fel Archesgob Caergaint. Yn 2002 cafodd ei anrhydeddu i Orsedd y Beirdd.
Yn 2008, ysgogodd brotest ar ôl dweud y byddai mabwysiadu'r gyfraith Islamaidd Sharia yn Lloegr o dan amgylchiadau penodol yn "ymddangos yn anorfod". Ei ddadl oedd y byddai mabwysiadu agweddau o gyfraith Sharia yn helpu i gynnal cydlyniad cymdeithasol.
Mae wedi bod yn gyson yn ei gefnogaeth o ordeinio menywod ac yn 2005 cefnogodd gamau i'w caniatau i weithio fel esgobion er syfrdandod i Anglicaniaid ceidwadol. Mae natur eang ei Eglwys, sydd yn cynnwys Anglo-Gatholigion, Efengylwyr a rhyddfrydwyr, yn golygu ei bod wedi bod yn anodd cael undod ar nifer o faterion.
Ordeinio clerigwyr hoyw sydd wedi creu'r cur pen mwyaf i'r Archesgob. Mae Eglwys Lloegr wedi dod yn agos at hollti ar y mater, ac er gwaethaf ei ymdrechion mar Dr Rowan wedi methu â chael arweinwyr eglwys traddodiadol - yn bennaf yn Affrica - i ailgymodi ag adain ryddfrydol yr eglwys yng Ngogledd America.
Mae'r eglwysi Catholig ac Anglicanaidd wedi dweud bod rhaid iddyn nhw sefyll gyda'i gilydd yn erbyn y bygythiad o seciwlariaeth a'u bod yn gryfach wrth gydweithio nag a fydden nhw ar wahan. Ond, er sawl cyfarfod gyda'r Pab, methu dod a'r eglwysi yn nes wnaeth Dr Williams.
Mae'r Archesgob wedi bod yn ganolog mewn digwyddiadau cenedlaethol, gan gynnwys y Briodas Frenhinol yn 2011 rhwng Dug a Duges Caergrawnt yn Abaty Westminster.