Ffrae cyflogau amaeth yn dwysáu

  • Cyhoeddwyd
Buwch
Disgrifiad o’r llun,
Mae gweinidogion Cymru am gadw'r bwrdd sy'n pennu cyflogau ac amodau gwaith gweithwyr fferm

Mae'r ffrae am ddiddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru wedi dwysáu wrth i Ddirprwy Weinidog Amaeth Cymru gyhoeddi datganiad beirniadol o lywodraeth San Steffan.

Yn ei ddatganiad, mae Alun Davies yn dweud bod llywodraeth y DU wedi cyflwyno gwelliannau ar Ragfyr 19 i ddiddymu'r Bwrdd heb gyfathrebu o gwbl gydag ef.

Dywedodd fod hynny'n osgoi gofynion y ddeddf sy'n galw am gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol am newidiadau i gyrff cyhoeddus ac yn tanseilio hyder bod gan lywodraeth San Steffan barch tuag at Lywodraeth Cymru.

Dim Cymraeg

Yn ei ddatganiad ysgrifenedig, dywedodd Mr Davies:

"Wrth i mi ymgymryd â'r swydd yma y llynedd, fe gefais gais gan lywodraeth y DU am fy nghydsyniad i ddiddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol.

"Yn y gorffennol rwyf wedi sôn am bwysigrwydd rôl y bwrdd - mae ffigyrau DEFRA eu hunain yn awgrymu y byddai diddymu'r bwrdd yn effeithio ar 12,500 o weithwyr yng Nghymru, ac fe nodais fy nymuniad i gadw swyddogaeth y Bwrdd yng Nghymru gan ofyn i hyn gael ei wneud mewn ffordd fyddai'n ateb gofynion agenda gwleidyddol llywodraethau Cymru a'r DU.

"Gwrthod hyn wnaeth llywodraeth y DU, ac yna cyhoeddi ymgynghoriad ar y penderfyniad i ddiddymu'r Bwrdd heb hysbysu Llywodraeth Cymru a heb ddefnyddio'r iaith Gymraeg o gwbl yn y dogfennau ymgynghori.

"Nid yw llywodraeth y DU wedi bod yn fodlon trafod y mater o ddifri. Dros y 18 mis diwethaf rwyf wedi cwrdd gyda dim llai nag wyth gweinidog mewn ymgais i ddatrys y mater.

"Mae hyn yn anfoddhaol iawn.

"Roedd yn siomedig iawn clywed ar Ragfyr 19 bod gwelliannau wedi eu cyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi fyddai'n prysuro diddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru a Lloegr, a hynny heb unrhyw ohebiaeth na rhybudd.

"Mae hyn yn osgoi'r angen i gael cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus, ac yn tanseilio hyder bod llywodraeth y DU o ddifri wrth sôn am barch tuag at Lywodraeth Cymru."

Ychwanegodd Mr Davies y byddai'n gwneud datganiad pellach ar y mater pan ddaw'r Senedd yn ôl wedi'r Nadolig.

Mae undeb ffermwyr NFU Cymru yn cytuno gyda safbwynt llywodraeth y DU bod y bwrdd y tu ôl i'r oes, ond mae Undeb Amaethwyr Cymru am ei gadw.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol