157 eisoes wedi cael tynnu bronnau silicon PIP ar y gwasaneth iechyd
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau ddaeth i law BBC Cymru yn dangos bod 157 o ferched yng Nghymru wedi cael tynnu a gosod bronnau silicon newydd ar ôl diffygion posib ddaeth i'r amlwg flwyddyn yn ôl.
Cafodd y triniaethau yma eu gwneud gan y gwasanaeth iechyd.
Daeth tensiynau i'r amlwg rhwng Llywodraethau Cymru a Phrydain wrth ymateb i ddiffygion gyda rhai o fagiau silicon y cwmni Ffrengig PIP.
Ym mis Ionawr fe wnaeth Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, gyhoeddi mai'r gwasanaeth iechyd fyddai'n talu am dynnu a gosod mewnblaniadau yn lle'r rhai diffygiol os byddai'r clinigau preifat - oedd wedi eu gosod yn wreiddiol - yn gwrthod a bod 'na angen am driniaeth glinigol.
Dim ond talu am dynnu'r mewnblaniadau yr oedd y gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn ei wneud.
Clinig arbenigol
Roedd y gwahaniaeth mewn polisi yn un wnaeth esgor ar drafodaethau pigog rhwng y Senedd a Whitehall.
Roedd Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod oddeutu 1,000 o ferched yng Nghymru wedi cael y bronnau silicon PIP a bod 95% ohonyn nhw wedi eu gosod gan glinigau preifat.
Wedi iddi ddod yn amlwg fod rhai o'r bronnau silicon yma yn rhwygo a bod rhai wedi ac yn gallu rhwygo, y pryder oedd bod y math anghywir o silicon wedi ei ddefnyddio mewn rhai sef silicon diwydiannol yn hytrach na silcion clinigol.
Cafodd tîm arbenigol fyddai'n delio gyda'r achosion yma ei sefydlu yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.
O'r tua mil o ferched sydd wedi cael y bronnau yma mae 547 ar lyfrau'r clinig arbennigol.
Mae 407 wedi gweld arbennigwr a 157 bellach wedi gorffen y driniaeth o dynnu'r silicon diffygiol a gosod rhai newydd.
O'r 157 roedd o leia' 42 â bronnau silicon oedd wedi rhwygo.
Poeni am sgil effeithiau
Un sydd wedi mynd drwy'r broses ydi Becky Little o Grosskeys.
Cafodd hi fronnau silicon yn 2008 ac ar ôl i'r straeon ddod i'r amlwg mi aeth ati i weld a'i mewnblaniadau PIP oedd ei rhai hi.
A dyna oedd ganddi ac mae hi wedi bod trwy'r broses o'u tynnu a chael rhai eraill yn eu lle.
Roedd hi hefyd yn un lle'r oedd un o'i bagiau silicon wedi rhwygo.
Mae hi'n poeni bod peth silicon wedi ei ryddhau ac y gall olygu problemau iechyd iddi yn y dyfodol.
"Dwi wedi bod yn lwcus iawn i gael y driniaeth mor fuan gan ei fod yn pwyso ar y meddwl.
"Mae rhywun yn poeni be all y silicon diwydiannol ei wneud i'ch corff.
"Fe fues i ar dabledi iselder am gyfnod oherwydd y pryder."
Hawlio'r arian
Mae hi'n teimlo bod y penderfyniad iawn wedi ei wneud yng Nghymru i dynnu rhai diffygiol a thalu am rhai newydd ar y gwasanaeth iechyd - gan mai gwarchod iechyd pobl ydi pwrpas y gwasanaeth iechyd.
"Ma'n nhw'n trin afiechydon yn gysylltiedig ag alcohol ac ysmygu.
"Fe ddylai'r gwasanaeth preifat fod yn gyfrifol ond does 'na unlle arall ond y gwasanaeth iechyd i ni droi.
"Dwi'n gobeithio gall y gwasanaeth iechyd hawlio'r arian yn ôl.
"Ond dwi'n falch bod Lesley Griffiths wedi rhoi budd pobl o flaen arian."
- Bydd mwy am y stori yma ar raglen Eye on Wales ddydd Sul ar Radio Wales am 1:30pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012