Pro12: Gleision Caerdydd 6-9 Scarlets

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionJonathan Davies o'r Scarlets yn cael ei lorio

Gleision 6-9 Scarlets

Brwydrodd y Scarlets i sicrhau buddugoliaeth ym Mharc yr Arfau i aros yn ail yn nhabl y Pro 12.

Doedd hi ddim yn glasur o gêm o bell ffordd, ond roedd ymdrechion y ddau dim yn ddiflino.

Llwyddodd Aled Thomas, oedd yn cymryd lle y maswr rhyngwladol Rhys Priestland sydd allan gydag anaf, gyda thair cic gosb.

Roedd Rhys Patchell yn ddibynadwy i'r Gleision, gyda dwy gic gosb allan o ddwy.

Straeon perthnasol