Caerlŷr 0-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd Caerdydd ar frig y tabl ar wahaniaeth goliau ar ddechrau'r diwrnod, ond mae yna fwlch o dri phwynt bellach rhyngddyn nhw a'r gweddill.
Ar ôl colli eu record 100% ar eu tomen eu hunain y penwythnos diwethaf, roedd yn bwysig i dîm Malky Mackay daro'n ôl.
Er hynny y tîm cartref gafodd y gorau o'r chwarae o dipyn yn Stadiwm King Power.
Fe gafodd Caerlŷr mwy o gyfleoedd o lawer, ond yr ymwelwyr fanteisiodd ar gyfle yn yr hanner cyntaf.
Cafodd croesiad cyntaf Craig Conway ei glirio gan gyn amddiffynwr Wrecsam, Richie De Laet, ond aeth y bêl yn ôl at Conway, ac fe lwyddodd i ganfod Craig Bellamy ar yr ail gynnig.
Rhwydodd Bellamy i gornel isa'r rhwyd i roi Caerdydd ar y blaen.
Fe gafodd Caerdydd dipyn fwy o'r meddiant yn yr ail hanner, ond unwaith eto y tîm cartref gafodd y cyfleoedd gorau.
Ond roedd amddiffyn Caerdydd yn gadarn, ac ychydig o waith gafodd David Marshall i wneud yn y gôl.