M4: Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dyn yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 fore Sadwrn, Rhagfyr 22.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle rhwng cyffordd 29 a 30 am 6:07am fore Sadwrn wedi i lori fod mewn gwrthdrawiad ࢲ nifer o geir cyn gadael y ffordd.

Cafodd y lon tua'r dwyrain ei chau am beth amser, ac fe gafodd dau berson eu cludo i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Fe gafodd dyn 42 o ardal Tewkesbury anafiadau difrifol o ganlyniad i'r digwyddiad a bu farw yn yr ysbyty.

Mae'r dyn arall mewn cyflwr sefydlog.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.